17.8.06

Mynd o Streddfod i Steddfod

Blydi hel, ife fi di gwario ffortiwn yn y blydi steddfod wythnos diwethaf, ti wastad yn trio peidio ond chi methu stopio, dim ond un diwrnod nes i dalu i fynd mewn i’r maes ac odd hwnna ar dâl Myfyrwyr(dal gen i hen gerdyn myfyriwr).
O wel nath hi’n wythnos a hanner. Diolch byth bo fi ddim di mynd i Maes B flwyddyn yma am y tro cyntaf ers 1998. Ond oedd y Glamorgan Arms yn lle lot gwell i bobl sydd ddim rhy ifanc i yfed, nes i glywed hefyd fod rhyw seico yn mynd oamgylch y pebyll yn Maes B yn rhoi nhw ar dân. Anyway odd e’n handi aros yn y Glamorgan Arms hefyd am y gigs – Es i Bar 5 ddwy waith a odd hi’n ddwy waith yn ormod – dim o achos y gigs achos odd lot mwy o fandiau on i really moen gweld ond achos y cwrw – nath unrhywun sylwi fod y bar yn rhedeg allan o gwrw neu fod y pympiau ddim yn gweithio ar ol rhyw amser. Yn ol y sôn odd y Clwb yn trio cal – pobl i yfed poteli cwrw drwy neud lan fod y tap di torri neu rhedeg mas. On i yna Nos Sadwrn cynta ac ar y Dydd Mawrth – base chi’n meddwl bod digon o sens da’r bar i neud yn siwr fod digon o gwrw neu fod y taps yn gweithio.
Ond odd y Glamorgan Arms yn lot gwell o ran gigs ac odd awyrgylch yn lot gwell hefyd – ond heb os uchafbwynt y gigs oedd nos Sadwrn pan nath Rhys Harries o’r Trwynau Coch cameo gyda Neil Rosser. Odd hi’n cool hefyd cael jam da gitar ar ol i’r gig orffen – a cal Rhys Mattoidz ar y noson ola yn jamio – Peth arall nes i sylweddoli yw fod absoliwtli neb yn gwbod geiriau Tan y Tro Nesa heblaw am y darn bach ar ddechrau pennill un “Ers i Ti droi Nol” neu rhywbeth fel yna on i gyd yn hymian tan y “Tan y Tro Nesa” bit, lol.
Anyway sai di sôn di am tu fewn i’r Steddfod – odd hwnna’n dda hefyd, on i’n gweithio, on i’n cystadlu on i di meddwi – wel dim ond ar ol i ni gystadlu ac ennill i ddathlu(ma rhaid bod cerdd yn honna). Gan bo fi di cal rant am bobeth arall beth am gael rant am y blydi llawr yn y steddfod – ma nhraed i dal i frifo, ma idiot yn ei feddwl call fydde’n rhoi llawr fel yna mewn Eisteddfod – nag yw e’n sylweddoli fod pobl yn gorfod cerdded arno fe am wythnos, neu naw diwrnod gyfan. O wel yn ol hen ffrind base fed dim yn steddfod heb i rhywun gwyno am rywbeth – Falle gewn ni fwd y flwyddyn nesa yn Lerpwl, sori Sir y Fflint – Gallwn ni ond freuddwydio.