27.4.06

Henffych Peter Law

Ok, Mae'r gwr a wnaeth herio Llafur di marw ond gellir ddim gwadu fod ei gyfraniad wedi bod yn aruthrol dros y flwyddyn diwethaf i Wleidyddiaeth Cymru. Jest piti fod neb o aelodau'r Blaid gyda'r gyts i sefyll lan dros eu Plaid eu hunain - Fel rhywun sydd yn dod o gymoedd y de alli di weld y sefyllfa Dogmatic y mae'r Blaid Lafur ynddi - Fyddai neb byth yn cwestiynnu, herio neu anghytuno unrhyw un Aelod Seneddol/Cynulliad y Blaid Lafur ac i'r rhai sydd yn gwneud - Look out Ar ol gweld y ffordd mae rhai pobl yma'n trin aelod o un rhyw Blaid arall neu hyd yn oed rhywun sy'n pleidleisio i unrhyw Blaid arall - Yn enwedig Plaid Cymru(neu Plaid ddyliwn i ddweud) Mae neud chi deimlo bod chi'n Iddew yn yr Almaen dan y Natsiaid(ok falle bod y statement yna bach yn rhy gryf) -mae'n rhaid bod e wedi bod yn anodd ar Peter Law i wneud beth wnaeth e dan yr amgylchiadau ac hyd heddiw mae e jest yn profi pa mor stiwpyd yw'r rhestr Menywod yn unig - Ystyriwch e fel hyn - Allwch ddychmygu beth fyddai'n digwydd os fyddau rhywun yn penderfynnu fod dim digon o bobl ddu yn y cenedd neu'r Cynulliad-Be fydden nhw'n neud ond A Black only list !!!!! - I rest my case

Mae'n siwr nawr neiff y Blaid Lafur ail gydio yn eu set (drwy gael Dyn i sefyll wrth gwrs)-Wel gall Maggie ddim sefyll gan ei bod ar y ffordd i Dy'r Arglwyddi, Mi fydd Llafur yn ol yn y set ac fydd domiwnyddiaeth Llafur yn cario mlaen a mlaen tan falle mewn blynyddoedd i ddod fod un person yn sefyll lan dros be mae'n gredu yn erbyn ei blaid ei hunan - peidiwch dal eich gwynt

8.4.06

3 mis arall

Blydi hel fi'n cadw anghofio i ddiweddaru hyn
Anyway Dechrau gweithio mewn swydd newydd nawr ar ol bod yn gaeth i gyfalafiaeth rhyngwladol am 3 mis mae e'n neis gweithio mewn sefydliad Cymraeg.
iPod dal yn cadw cwmni i fi ar fy ffordd i fy ngwaith-er sdim rhaid cerdde mor bell nawr diolch byth-So dyma fi ar fore Sadwn yn nyrsio hangover yn syrffio'r we ac yn diweddaru

Na i drio meddwl am rywbeth gwell i ddweud tro nesa!!!!