5.1.07

Blwydyn Newydd Dda

Reit, newydd gofio fod blog gen i so well i roi update bach gan bo fi heb neud am fisoedd. Wel dim ers i CF1 fyd ar eu trip i’r gogledd. Well le ddechreua i. ok, gafodd CF1 gyfle unwaith eto i ganu ar faes ein Stadiwm Genedlaethol yng ngem Cymru vs Seland Newydd, wel ar ol i ni ganu yn erbyn Awstralia tua blwyddyn yn ol i’r dyddiad a churo nhw wedyn yn y gem falle fydde e’n rubbo off ar dim Cymru yn erbyn Seland Newydd – ‘How wrong was I’. They thrashed us!!!!. O wel nath hi’n sesiwn da wedyn gyda Chor Godre’r Garth oedd wedi bod yn canu gyda ni yn y Stadiwm ac wedi canu yn yr un cyngerdd y noson gynt yn nghapel y Tabernacl Caerdydd so odd e’n laff – lot o luniau ar fy ngamera y bore wedyn a ddim yn cofio tynnu hanner ohonyn nhw – ie er gwaetha’r tim yn colli nath hi ddiwrnod da iawn.

Wedyn ddaeth y Nadolig. Dwi’n meddwl mai tua canol mis Hydref nes i weld addurniadau am y tro cyntaf – on i heb really fod ar St Mary St Caerdydd am ychydig o wythnosau so do ni ddim yn gwbod pryd athen nhw lan. Ond ma jest gweld ambell i dy ym Maesteg yn hilarious, Tai teras bach bach wedi eu plastero da goleuadeau lliwgar. Wel rhan o’r sbort amwn i, wastad yn destun trafod gan bobl sydd naillai’n ei garu neu yn ei gasau – ac mae’n laff gweld pobl yn cwyno amdano fe.

Anyway yr ail Nadolig i fi gael lan yn y gogs a ti o’r diwedd yn dod i ddeall y term “Nadolig Tawel Blwyddyn Ma”. Ti’n clywed pawb yn ei dweud e a ti byth yn ei ddeall e tan i ti fod drwy un, and yes,! You’ve guessed it, dyna be ges i. nice chilled Nadolig, anrhegion neis, arian cwpwl o seshes – tro cynta i fi fod mas ar y piss ym Mangor yn iawn – Mor strange – nes i endio lan yn Octagon a gweld pobl coleg on i heb weld ers ages a nhw yn gofyn “Be ffwc wyt ti neud fan hyn?” ac wedyn cael y drafodaeth mawr da nhw fod mam yn byw lan yn y gogs ac wedi dod lan am dolig run hen stori ond nath hi’n noson iawn ta beth ac wedyn flwyddyn newydd yn Nghaerfyrddin yn nhy Carin a Hywel – wel methu cofio bron dim ar ol 12 ond nes i joio yn ol y son – sori methu cofio – So Blwyddyn newydd dda

0 Comments:

Post a Comment

<< Home