8.9.06

Brown a Blair



Un o'r pethau diddorol am Brif Weinidog: Allwch chi ddim help ond eu hedmygu am be ma nhw di neud hyd yn oed os oeddech yn anghytuno'n llwyr a nhw - Churchill mi wnaeth e ddanfon milwyr mewn i gymoedd y de yn y 1920au i chwalu streiciau oedd yn hollol anfaddeuol, ond be ma pobl yn cofio mwy amdano fe yw fel Prif Weinidog yn ystod yr ail ryfel byd a'r areithiau mawr yr oedd yn arfer gwneud - "never give up, never surrender". Hyd yn oed pan oedd y wlad yn sefyll ar ei phen eu hun roedd ei bersonoliaeth yn cadw'r wlad i fynd drwy'r amser anodd - does dim dwywaith amdano fe.
Thatcher - er gwaetha beth wnaeth hi i Gymru a'r iaith Gymraeg a'r Blaid Geidwadol - gallwch weld nawr fod pobl yn dechrau edrych nol arni hi a'i pharchu am ei phersonoliaeth cryf a phenderfynol a dwi'n meddwl mewn blynyddoedd i ddod dyma sut fydd hi'n cael ei chofio - dwi'n gwbod fod llawer o bobl yn anghytuno a fi am hyn ond dyma be dwi'n ei gredu - Personoliaeth y Prif Wenidog sydd yn bwysig mewn Gwleidyddiaeth Prydain. Ac mae Tony Blair gymaint a ma pobl yn ei gasau erbyn hyn, a'r personoliaeth perffaith i fod y Prif Weinidog. Mae e'n berson hoffus iawn ac mae'n berson mae pobl yn teimlo'n gyffyrddus gyda. Does dim dwywaith fod yr wythnos yma wedi bod yn fygythiad mawr i'w swydd ond mae beth mae e wed iei gyflawni yn ystod y 9 mlynedd diwethaf yn rhoi'r hawl iddo fe i benderfynnu pryd ddyle fe fynd ac nid y blaid Lafur. Edrychwch ar y ffeithiau - Os fyddai Gordon Brown wedi dod yn arweninydd y Blaid Lafur nol yn 1994 bydd fe byth wedi gallu para mor hir a hyn. Mae Tony Blair wedi llwyddo i oroesu drwy nifer o drychinebau gwleidyddol mewgis y rhyfel yn Irac, Ffioedd cyflenwi, Fuel Crisis i enwi ond ychydig ac mae wedi gallu aros yn ei swydd a chael ei ail ethol yn yr etholiad canlynol. Efallau fod llai o fwyafrif ganddo erbyn hyn ond nath e dal ennill ac yn fwy na dim cadw ei fwyafrif yn y senedd. Bydde Gordon Brown byth wedi gall gwneud hyn Dyw Gordon Brown ddim yn brif weinidog. Dyw e ddim yn ei natur i fod. Dyw e ddim yn berson hoffus a does ganddo fe ddim y personoliaeth i fod yn brif weinidog.
Mae Tony Blair yn gwbod hyn a mae e moen dal i fynd ddigon hir tan fod yna berson arall mwy tebyg iddo fe yn gallu rhoi sialens iawn i Gordon Brown a'i hennill. Os ddaw Gordon Brown yn brif weinidog mae e bron yn sicr fydd David Cameron yn dod yn brif wenidog yn 2009 neu 2010. Gallwch ddadlau fod etholiadau cyffredinol yn cael eu penderfynnu gan tua 100,000 o bobl ar gyfartaledd sydd ond yn penderfynnu pwy fydd yn cael eu pleidlais ar ol iddyn nhw dderbyn y papur pleidleisio ac yn edrych ar y pleidiau gwahanol wrth geisio penderfynnu i bwy ddylse nhw bleidleisio. A phan ddaw etholiad cyffredinol eto y Plaid fydd pobl yma'n fwya tebyg i'w ddewis fydd y Blaid Geidwadol am yr unig rheswm yw fod David Cameron yn berson mwy carismatig na Brown ac mae'r ddelwedd mae'n cyfleu yn llawer gwell na Brown.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home