9.5.06

Nol y Aber

Wel as luck would have it nes i endo lan nol yn Aber penwythnos diwethaf. Beth ddigwyddodd , wel Senedd Cymdeithas yr iaith - cyfarfod pwyllgor canolog Cymdeithas yr Iaith, wel ar ol i hwnna orffen odd i tua 4 os dwi'n cofio'n iawn ac oedd fy ffrind i Osian yn gyrru - mae ganddo hefyd dueddiad i fwyta ar yr un pryd ond stori arall yw honno, ond nath y ddau ohonom benderfynnu aros lan yn Aber am sesh - hei pwy on i i ddadlau - neis cal newid o Gaerdydd weithiau a mae'n llawer rhatach - ee yn y clwb snwcer roedd 3 lager ac 1 ginis di costio tua £6.50 so os taw eich tro chi yw e i brynnu rownd yn Aber ewch i'r clwb snwcer.
So noson arall yn Aber ac endio lan yn y Castell(y pyb wrth gwrs) - dim ond unwaith fi di bod yna ar ol oriau - on i dan yr argraff o'r blaen taw dim ond yr Angel oedd ar agor yn hwyr yn Aber ac mae nhw yn dueddol i fynd yn boring ar ol ychydig - ond ni dal yn mynd yna jest er mwyn yfed yn hwyr - ma fe yn neud sens os chi'n meddwl amdano fe !!!

0 Comments:

Post a Comment

<< Home