1.5.06

Hasbins Aber

Wel fel Hasbin o Aber es i benwythnos y rugby 7s yn Aberystwyth dros y penwythnos-er bo fi ddim di gweld unrhyw rygbi odd e jyst yn wythnos o sesh. Ar y ffordd lan gyda chwpwl o gyfeillion ges i alwad ffon gan llywydd UMCA yn gofyn i fi'n neis iawn i fod yn DJ am y gig fawreddog oedd yn Harleys ar y nos Sadwrn. Ond roedd un problem doedd gen i ddim o fy ngherddoriaeth i gyda fi- dim ond fy iPod -so trefnwyd i gysylltu'r iPod mewn i'r PA a chware'r caneuon off yr iPod yn syth. So ar ol i fi gyrraedd dyma fi'n gweld Stephen y llywydd mewn panic llwyr - Roedd dau o'r bandiau wedi tynnu allan y funud ola sef y bandiau RASP a dim ond un band oedd yn chwarae sef y Mattoidz a oedd yn ffilmio ar gyfer Bandit ac yn dod i fyny'n hwyrrach - so panic llwyr a dyma ni gyd yn meddwl beth oedd y peth gorau i wneud ac or diwedd dyma Alun Gaffey yn cytuno i wneud set o flaen Mattoidz - so ar ol iddo fe ffonio cwpwl o gysylltiadau a chael gitar roedd y sefyllfa yn edrych bach yn well.

Wedyn i bob sioc pwy ddaeth draw ond Perchenog Harleys a dyma ni'n esbonio beth oedd wedi digwydd a dyma fe'n dweud fod Heather Jones yn chware yn Scholars ac mi fydd e'n danfon hi draw ar ol iddi hi orffen fan yna Gret!!! ie plis!!! oedd yr ymateb yn syth so dyma ni yn tecsio pawb i ddweud fod y gig dal mlaen a ffwrdd a ni-Aeth Gaff mlaen i dechrau a chware set oedd yn dda iawn - mae'n gitarydd o fri ac rhoddodd berfformiad ardderchog o ystyried fod e heb ymarfer

Wedyn aeth Mattoidz ymlaen - fel arfer Gwych!!!! does dim un gair arall gallwn ddefnyddio i ddisgrifio band mor dynn ar y llwyfan ac yn gallu perfformio yn broffesiynnol iawn. Mae'r band ym a wedi datblygu llawer dros y flwyddyn diwethaf ac mae nhw'n gwella bob tro rwy'n eu gweld. Yn olaf roedd Heather Jones Fe berfformiodd hi hefyd yn wych gan ganu nifer o glasuron megis Cwm Hiraeth, Mynd yn ol i'r Dre a Ble'r aeth yr Haul, a dwi'n meddwl bod hi'n deg dweud bod eu llais hi mor swynol ag erioed. Roedd y gynulleidfa yn mwynhau ac roedd hi yn mwynhau perfformio. Ac ar y diwedd fe gannodd hi yr hen ffefryn sef Colli Iaith - Aeth y lle yn dawel iawn a dyma beth oedd uchafbwynt y noson i fi ac sydd wedi profi eu bod yn dal yn haeddu pob cefnogaeth a chanmoliant yn y sin Gymraeg heddiw.

Ar ol y gig sesh yn yr Angel a hangover mawr bore wedyn -Ie on i nol yn Aberystwyth
Penwythnos a Hanner

0 Comments:

Post a Comment

<< Home