16.6.06

Rali

Gwell hwyr na hwyrach. Anyway penwythnos diwethaf es i fel pob aelod da o Gymdeithas yr Iaith i'r Rali Fawr Deddf Iaith yn Aberystwyth. Ar ol 3 awr yn y car gyda Osian roedden ni wedi cyrraedd. Roedd y neuadd yn llawn tua 500 o bobl yn bresennol i anrhydeddu Eileen Beasley sef yn y bon sy'n gyfrifol am Gymdeithas yr Iaith - Eileen Beasley yn gwrthod talu treth am nad oedd yn Gyrmaeg yn arwain at Saunders a'i ddarlith (Beth oedd enw fe nawr? ;-)) yn arwain at Gymdeithas yr Iaith. So roedd yn brofiad gwych cael dangos ein gwerthfawrogiad i ni. Wedyn yr areithiau - Dweud fod angen deddf iaith a pham ayb. Roedden ni gyd yn gwbod fod angen un. Wel mae bron pawb yng Nghymru yn cefnogi Deddf Iaith erbyn hyn Pawb ond y Blaid Lafur. Ac roedd Ieuan Wyn Jones yn areithio yn y rali yn datgan ei gefnogaeth a'r Arglwydd Roberts o'r Rhyddfrydwyr ac mi gafwyd gyfarfod gyda'r Blaid Geidwadol hefyd oedd yn datgan mwy neu lai o'i blaid. So ni ar y trywydd iawn mae'r frwydr yn cyrraedd ei ben llanw ac ar ol etholiadau'r cynulliad nesaf mae'n edrych yn reit dda ar yr iaith Gymraeg os nad yw Llafur yn ennill mwyafrif.
C'mon beth yw'r broblem da nhw. Ydyn nhw ofn fod y Cymry yn mynd i ddechrau siarad Cymraeg da'i gilydd neu beth. Neu fod pawb sy'n siarad Cymraeg yn mynd i droi at Blaid Cymru. Wel Ie yn y bon i'r ddau rheswm, iddyn nhw mae'n lalwer haws i fod yn wrth gymraeg achos ei fod yn gallu chwarae ar ofnau pobl y cymoedd drwy fygwth yr iaith Gymraeg yna wwwww scary. Ma hyn yn atgoffa fi o stori am Ness Edwards yn canfasio yn y 60au ac yn mynd a lampshade gyda fe pan oedd yn areithio. Ond nid lamshade cyffredin oedd hwn ond lamshade oedd wedi wneud yn yr Almaen yn ystod yr ail ryfel byd allan o groen Iddewon. Ac un rhyw ddadl oedd Plaid Cymru yn ei roi dyma fe'n sefyll lan a phwyntio at y lampshade a gweddi
"You see this!! This is what'll happen to you if the Nationalists get in"
A dyna oedd sail ei ddadl. Ond mae'n rhaid i ddyn ofyn y cwestiwn LLE GAFODD E'R BLYDI THING YN Y LLE CYNTAF!!!!. Dyw Llafur byth mynd i newid a mae'n rhaid i chi chwerthin ar eu pennau weithiau neu dim ond gwylltio fyddech chi'n neud.
Nol i'r rali, ar ol y rali roedd gig fawreddog yn y Cwps gyda Pala a cwpwl o fandiau eraill. gig dda iawn a fi'n endio lan yn prynnu CD Pala. Fi mor soft. Wel penwythnos dda Roll on haf

0 Comments:

Post a Comment

<< Home