30.5.06

TWLL TIN I'R CWIN +10

Ok Ok fi ddim moen dweud dim byd am y rhestrau Plaid Cymru, gwell cadw rhai pethau dan fy het. Ta beth Mystery Tour CF1 nos Wener diwethaf ac endio lan yn Ponty - Noson dda jest methu cofio bod yn Callaghans Caerdydd ar ol dod nol ond fi'n eitha ffyddiog nad yw ambell i un arall hefyd a gaiff aros yn ddi-enw. A ni di ffeinbdio bod gan Eilir Griffiths dalent arall yn ogystal ag arwain cor, Ma fe'n gallu chware pool yn dda hefyd

Nos Sadwrn - Lan i Aberystwyth i ddathlu deng Mlynedd ers Twll Tin y Cwin - I rai sydd dim yn gwbod - Lle Ffwc chi di bod, On i'n rhy ifanc i fynd i'r noson fawr yn y Cwps yn 1996, ond o beth mae pawb yn dweud hwnna oedd y gig gorau erioed i fod yn y Cwps. Ta beth penderfynno nhw neud e unwaith eto yn 2006(I'r rhai sydd methu cyfri 10 mlynedd ers y digwyddiad mawr) ac mi gafod nhw yr un bandiau i chwarae sef Geriant Lovgreen a'r Enw da ac Ysbryd Chouchen. Ac mi wnaeth Ysbryd Chouchen ganu'r un set a beth nathen nhw ganu yn y gig 10 mlynedd yn ol. Dim ond un waith fi di gweld Ysbryd Chouchen yn chwarae sef yn Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998 ac mi oedden nhw yn dda iawn tro hynny ond Nos Sadwrn mi oedden nhw on form. Hyfryd gweld y grwp yn chware'r hen ganeuon. Uchafbwynt set Ysbryd Chouchen oedd "Can y Cwps" yn bendant - yn bennaf achos ei fod yn y Cwps ac oedd pawb yn ei hadnabod - Yn enwedig Glynis.
Wedyn mi aeth Geraith Lovgreen mlaen - A mi chwareuodd e'n wych hefyd - Yr unig biti oedd nad oedd Iwan Llwyd yn bresennol. Ond heblaw am hynny mae'r Band yn dal i fynd yn gryf ac fe nes i glywed ambell i gan newydd fel "Mynd i Bortmeirion mewn Levis". Fi'n sicir gwnaeth bawb fwynhau y noson. Neis cal y teimlad gan wbod bod chi ddim yn gorfod mynd i'r gwaith ar fore Dydd Llun - Blydi Athrawon yn cal Wythnos Off - Fi jest yn teimlo'n sori i'r rhai sydd yn gorfod bod yn grfrifol am fynd a plant i Steddfod yr Urdd. Wel fi'n cystadlu ar Ddydd Sadwrn da CF1 am y tro cyntaf ers gadael Aelwyd Pantycelyn so should be fun

0 Comments:

Post a Comment

<< Home