19.6.06

Caerdydd am newid

Ok. Bach o newid penwythnos ma, aros yng Nghaerdydd!!!. Cyn nos Sadwrn fi ddim yn cofio'r tro diwetha on i mas yn y Brifddinas am sesh. Ta beth, nos Wener ar ol gwaith cwrdd a ffrind a'i chariad on i heb weld ers cwpwl o wythnosau, dal di blino a moen mynd adre ond dyma fi'n cael fy nragio mewn i byb arall lle oedd cyfaill cariad fy ffrin yn gweithio a cael cwpwl o free drinks (wel Red Bull a Vodka Dwbwl) ar ol yfed tua 5 on i'n teimlo llawer mwy effro - surprise surprise a cwrdd ag Aled a phenderfynnu mynd i clwb am sbel a weyn i Casio - Wel oedd hi ar ol 5 pan naethon ni gerdded masac oedd hi'n eitha golau so ffenidio'r unig le cyri a Chippy Lane oedd dal ar agor (Dorothys dwi'n meddwl) a cyri a chips a cherdded adre

Nos Sadwrn wedyn cwrdd a ffrindiau ysgol a mynd allan i Clwb am y Clwbwyl. Bandiau'n dda iawn - Un o ffrindiau fi heb weld bandiau Cymraeg ers pan on i'n mynd i gigs yr Urdd yn yr ysgol. Wel ar ol mwydro lot o bobl ac yfed loads o pints a nes i ffeindio pack o fags heb eu hagor. So not a bad night, wedyn endio lan yn cal cyri wedyn a Chippy Lane not bad am y Penwythnos ma!!!!!

0 Comments:

Post a Comment

<< Home