16.10.06

CF1 yn y Gogs

Ma rhywbeth wastad yn neis am deithio. Yn enwedig pan ma dros 50 ohonoch yn mynd am benwythnos. Dyna beth wnaeth Aelwyd CF1 dros y penwythnos. Fe canon ni yng nghyngerdd dathlu 50 mlynedd Ysgol Glan Clwyd, cyn ysgol ein harweinydd Eilir Griffiths, ar y nos Sadwrn. Fe ganon ni wedyn yng Nghapel Hebron ar y prynhawn ddydd Sul sef eglwys lle mae tad Eilir yn weinidog. Dyma’r tro cyntaf i’r Aelwyd fyd ar daith iawn i’r gogledd – wel heb gynnwys yr Eisteddfodau wrth gwrs ond roedd yn uffar o laff.

Un o perks cael canu yn y gogledd yw lle chi’n aros. Odd y Travelodge yn dda am y steddfod, ond y tro hwn gafon ni aros mewn gwesty posh sef yr Oriel House ar ol y gyngerdd Glan Clwyd. A beth oedd yn well am hynna oedd ROEDD Y BAR AR AGOR DRWY’R NOS. Wel un draw back o hynna oedd, doeddech chi ddim yn talu am eich drinks fel oeddech yn eu cael nhw – na roeddech yn llofnodi darn bach o bapur gyda rhif eich ystafell ac wedyn yn talu am y cyfan y bore wedyn – Odd ambell i bill yn eitha respectable, ambell un – Ddim mor bad, Ac ambell un - “DIM FY LLOFNOD I YW HWNNA” – Nath un aelod a gaiff fod yn ddienw brynnu potel o win a llofnodi’r bill E Griffiths, wel joc bach diniwed oedd hyn – Os fyddech chi di gweld y llonfod byddech chi di cytuno, ond beth nath yf nharo i oedd fod gennym ni westy crand moethus a nath un aelod arall o’r cor benderfynnu gysgu tu allan ar falconi ei stafell, ac odd e ddal yna y bore wedyn yn cysgu’n braf ar y patio. Piti ei fod wedi deffro yn fuan ar ol i ni ddod o hyd iddo – Cafodd ambell un ohonom syniad o gael y cor cyfan ar y Patio a dechrau ymarfer, YN UCHEL nes ei fod yn codi.

O wel, aeth y cyngerdd yng Nghapel Hebron yn dda iawn unwaith eto a chafon ni fwyd a te gan y capel – Un o’r pethe dwi wastad yn hoffi am y capel yw’r te sydd yn cael ei wneud yna - Mae gan bobl Capel ddawn o neud panned o de a chewch chi ddim panned cystal unrhyw le arall. Wel ar ol penwythnos hir nol a ni lawr yn ol i Gaerdydd yn nakerd. Diolch i ambell DJ ar y bws roedd yr entertainment bron yn ddi-dor a phwy oedd yn digwydd bod ar y radio wrth i ni gyrraedd nol i Gaerdydd ond, you’ve guessed it Aelwyd CF1.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home