9.10.06

Tennynau

Ma pobl yn dwp ac yn stiwpid yn dydyn nhw, y tro ma fi'n sydd yn dwp a stiwpid, wel eto!!!. Noson cyn fy mhenblwydd es i mas am gwpwl o ddrinks fel ma rhywun yn neud ar nos Wener ac odd Geraint fy ffrind di dod i aros am y penwythnos i fynd allan ar fy mhenblwydd nos Sadwrn. Ar ol dod adre ar ol noson allan es i ol blanced i Geraint oedd yn cysgu yn yr ystafell weld lawr star yn y ty a nes i faglu ar y grisiau a thorri tennynau (ligaments) yn fy nhroed AWWWWWW!

Ond beth oedd yn ddoniol am hyn oedd fod Geraint yn y cyfamser wedi dod o hyd i flanced yn yr ystafell yr oedd yn cysgu, eto roedd fy nhroed yn fycd ar daith ofer!!. Typical! ac yn casualty ar y Dydd Sadwrn yna sef diwrnod fy mhenblwydd dywedodd y doctor "You'd better keep that leg up for the next 48 hrs at least" Shit!!!

Methu mynd mas am fy mhenblwydd - So ffonio pawb lan - dweud y stori pawb yn chwethin fel arfer typical !!!
Anyway ma nhw wastad yn dweud "Try somthing new for your Birthday". Nes i dorri Tennynau yn fy nhroed.
Odd rhaid i fi aros adre o'r gwaith am gwpwl o ddiwrnodau a ma'r blydi thing dal yn brifo dros wyhnos yn ddiweddarach.

So gair i gall - Peidiwch byth a neud peth mor dwp a syrthio lawr y grisiau a thorri tennynnau yn eich troed - Mae'n blydi brifo

0 Comments:

Post a Comment

<< Home