19.2.07

Trafnidiaeth Crap Cymru

Newydd ddod nol o Aberystwyth ar ol cael penwythos mawr lan yna. Alla i nawr gadarnahu pa mor crap yw’r system drafnidiaeth yng Ngymru uwchben Caerfyrddin. Reit dechre’r daith. Ges i a Daf lifft lan da Osian o Gaerdydd.(Wel technically aethon ni i gwrdd ag ef ym Mhontypridd i osgoi traffic) Popeth yn mynd yn iawn – Dim problem lan yr A470 – eitha tawel am Nos Wener tan i ni gyrraedd Llangurug. Ma pawb yn gwbod y ffordd droellog Llangurug sy’n cysylltu’r A470 ac Aberystwyth – Wel yn anffodus roedd yn ddamwain eitha difrifol ar y ffordd a gorefodwyd i gau’r ffordd am gyfnod – A’r cwestiwn oedd ar feddyliau’r tri ohonom “Sut Ffwc da ni’n mynd i gyrraedd Aberystwyth nawr?”. Doedd dim amdani felly ond mynd tuag at Machynlleth a rownd lawr i Aberystwyth ac adio tua awr arall i’r daith.
Oleia on ni di cyrraedd a nath hi benwythnos iawn – tan Dydd Sul – Beth ddigwyddodd odd Osian di gorfod mynd nol lawr ddydd Sadwrn a gadael fi a Daf lan yn Aberystwyth a beth oedd ar ein meddyliau ni oedd- dylen ni ffendio’n ffordd yn ol i Gaerdydd yn hawdd da’r traws. Anghywir eto, Ar ddydd Sul dim ond un bys sy’n mynd i Gaerdydd – a beth sy’n waeth yw dim ond un bys sy’n mynd o Aberystwyth i Gaerfyrddin sef yr un bys- Hyd yn oed os fydden ni wedi cyrraedd Caerfyrddin byddai tren i Gaerdydd wedi bod yn hawdd – Ond roedd cyrraedd i Gaerfyrddin hyd yn oed yn amhosib – Doedd dim amdani on dal tren o Aberystwyth i Gaerdydd – Ie drwy’r Amwythig a Henffordd, 2 dren i Gaerdydd ac un tren arall nol i Cathays. £40 oedd y tocyn a thaith o 5 awr a hanner (gan gynnwys awr o stop yn yr Amwythig) Nes i adael am 15:35 o Aberystwyth a chyrraedd nol yn y ty tua 9 yng Nghaerdydd – Ond oleia oedd yna dren yn mynd sy’n fwy alla i ddweud am y bysus –
Pam ffwc naeth nhw gael gwared o’r hen Traws Cambria yr un oedd yn mynd o Fangor i Gaerdydd ac yn cymeryd tua 5 awr – Dim ond 2 public service bys sydd gyda chi nawr sef yr X32 sy’n cymeryd tua 4 awr o Fangor i Aberystwyth a’r X40 sy’n mynd o Aberystwyth i Gaerfyrddin ac ambell un i Gaerdydd sy’n stopio bron ymhob pentref o Aberytwyth i Gaerfyrddin a sy’n cymeryd bron i 2 awr i Gaerfyrddin a 2 awr arall i Gaerdydd(os chi’n lwcus). So anyway dyma fi nol yng Nghaerdydd ar ol y round trip o Aberytwyth yn damio’r system drafnidiaeth yng Nghymru – Rhywun plis sortiwch e mas !!!!!

0 Comments:

Post a Comment

<< Home